ATODIAD A i Bapur y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Craffu ar y Gyllideb Ddrafft.

 

Crynodeb o Newidiadau i 'Linellau cyllidebol Camau Gweithredu' yn 2016-17 o gymharu â Llinellau Sylfaenol diwygiedig ar gyfer 2015-16.

1. Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd

Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd yw'r Cam Gweithredu mwyaf o bell ffordd yn y MEG, gyda chyllideb refeniw flynyddol o £6 biliwn.  Y cam gweithredu hwn sy'n darparu'r prif gyllid ar gyfer gofal y GIG (ysbytai a gwasanaethau cymunedol).  Dyrennir y cyllid hwn i fyrddau iechyd lleol (BILlau) ac Ymddiriedolaethau'r GIG.  Mae'n cynnwys cyllid i ofal sylfaenol (meddygon teulu, deintyddion a fferyllwyr).  Mae cynnydd net o £258.926 miliwn i'r cam gweithredu hwn o ganlyniad i'r trosglwyddiadau canlynol rhwng Camau Gweithredu:

 

·                £0.363 million o'r Cam Gweithredu Cymorth Hosbisau i mewn i ddyraniad refeniw'r Byrddau Iechyd mewn perthynas â chyllid sy'n trosglwyddo o Ymddiriedolaeth Felindre i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan o ganlyniad i gostau meddygon ymgynghorol sy'n trosglwyddo o dan drefniadau TUPE.

 

·                £0. 015 miliwn o'r Cam Gweithredu Noddi Cyrff Iechyd Cyhoeddus mewn perthynas â chyllid ar gyfer Ymgynghorwyr Deintyddol i mewn i Ddyraniad y Contract Deintyddol.

 

·                £(0.542) miliwn i mewn i'r Cam Gweithredu Noddi Cyrff Iechyd Cyhoeddus mewn perthynas â chyllid dyfarniadau cyflog ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

·                £(0.503) miliwn i mewn i'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG wedi'u Targedu mewn perthynas â chyllid dyfarniadau cyflog ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

 

·                £(0.187) miliwn i mewn i'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG wedi'u Targedu mewn perthynas â chyllid dyfarniadau cyflog ar gyfer Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

 

·                £(0.118) miliwn i mewn i'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG wedi'u Targedu mewn perthynas â gwasanaethau archwilio mewnol ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

 

·                £(0.062) miliwn i mewn i'r Cam Gweithredu Noddi Cyrff Iechyd Cyhoeddus mewn perthynas â Gwasanaethau Sgrinio Retinopatheg Diabetig i Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

·                £(0.040) miliwn i mewn i'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG wedi'u Targedu er mwyn cwmpasu cyllideb Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mewn perthynas â chostau a fydd yn gysylltiedig â chontract y Cofnod Staff Electronig yn y dyfodol

 

Dyraniadau Ychwanegol

·                £200.0 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn unol â blaenoriaeth adolygiad o wariant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r GIG yng Nghymru

·                £30.0 miliwn i gynyddu'r Gronfa Gofal Canolraddol i £50.0 miliwn

·                £30.0 miliwn i gynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn ac iechyd meddwl

 

2. Cyflenwi Gwasanaethau GIG wedi'u Targedu

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn cynnwys cyllid ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol penodol (gan gynnwys Mentrau Gofal y Llygaid), yn ogystal â chyllid ar gyfer amrywiaeth o ddatblygiadau eraill gan gynnwys: cyflenwi datrysiadau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i'r GIG yng Nghymru a chymorth ar gyfer Addysg Feddygol i israddedigion.  Y gostyngiad net i'r Cam Gweithredu hwn yw

£ (14.075) miliwn yn 2016-17.  Mae'r gostyngiad hwn fel a ganlyn:

 

Trosglwyddiadau rhwng Camau Gweithredu:

 

·                0.503 miliwn o'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd mewn perthynas â chyllid dyfarniadau cyflog ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

 

·                £0.118 miliwn o'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd mewn perthynas â gwasanaethau archwilio mewnol ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

 

·                £0.187 miliwn o'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd mewn perthynas â chyllid dyfarniadau cyflog ar gyfer Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

 

·                £0.101 miliwno Cefnogi Addysg a Hyfforddiant yng Ngweithlu'r GIG i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mewn perthynas ag adnoddau ychwanegol i gefnogi'r trefniant newydd ar gyfer y Tîm Meddygon Teulu Dan Hyfforddiant  

 

·                £0.075 miliwno Gam Gweithredu'r Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol o ganlyniad i drosglwyddiad ariannol, i gyllideb graidd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, er mwyn parhau i gefnogi Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru

 

·                £(0.195) miliwno'r Cam Gweithredu Noddi Cyrff Iechyd Cyhoeddus mewn perthynas â throsglwyddo ystad y GIG o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

·                £(0.040) miliwno'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd er mwyn cwmpasu cyllideb Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mewn perthynas â chostau sy'n ymwneud â chontract y Cofnod Staff Electronig

 

MEG i MEG

 

·                £(15.903) miliwn i'r MEG Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu mewn perthynas ag ad-daliadau Buddsoddi i Arbed

 

·                £ 1.179 miliwno'r MEG Gwasanaethau Canolog mewn perthynas â Chynlluniau Buddsoddi i Arbed

 

·                £(0.180) miliwni'r MEG Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyllid y cytunwyd arno ar gyfer Arolygiaethau Iechyd Cymru

 

3. Cefnogi Addysg a Hyfforddiant yng Ngweithlu'r GIG

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn cefnogi rhaglenni addysg a hyfforddiant mewn swydd er mwyn datblygu gweithlu'r GIG.  Mae gostyngiad o £(0.101) miliwn i'r cam gweithredu hwn.

 

·                £0.101 miliwni'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG wedi'u Targedu mewn perthynas ag adnoddau ychwanegol i gefnogi trefniant newydd y Tîm Meddygon Teulu dan Hyfforddiant o fewn Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. 

 

4. Cefnogi Polisïau a Deddfwriaeth Iechyd Meddwl

Caiff y cyllid craidd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ei ddarparu drwy'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd.  Yn ogystal, mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid dynodedig i ddatblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, oedolion a phobl hŷn yng Nghymru yn unol â'r Strategaeth Iechyd Meddwl, y Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol a deddfwriaeth.  Mae'n darparu cymorth, er enghraifft, ar gyfer gwasanaethau dementia, anhwylderau bwyta a'r Gwasanaeth Cyn-Filwyr ledled Cymru.  Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn. 

 

5. Cymorth Hosbis

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid ar gyfer pob menter gofal lliniarol genedlaethol ac mae hefyd yn darparu cyllid rheolaidd ar gyfer hosbisau gwirfoddol.  Ceir gostyngiad net o £(0.363) miliwn i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17 o ganlyniad i drosglwyddiad cyllid i ddyraniad refeniw'r Byrddau Iechyd.

 

6. Cyflawni Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid ar gyfer y Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau a rhaglenni cysylltiedig er mwyn atal pobl rhag camddefnyddio sylweddau a helpu'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau, eu gofalwyr a'u teuluoedd.  Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17. 

 

7. Noddi Cyrff Iechyd Cyhoeddus

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n darparu: gwasanaethau iechyd cyhoeddus sy'n ymwneud â gwella a diogelu iechyd, gwybodaeth ac ymchwil ym maes iechyd cyhoeddus, a rhaglenni sgrinio cenedlaethol i bobl Cymru.   Ceir cynnydd net o £0.784 miliwn i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17, fel a ganlyn: 

 

 

 

Trosglwyddiadau rhwng Camau Gweithredu:

 

·                £0.542 miliwn o'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd mewn perthynas â chyllid dyfarniadau cyflog ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

·                £0.195 miliwn o'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG wedi'u Targedu mewn perthynas â throsglwyddo ystadau'r GIG i Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

·                £0.062 miliwn o'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd mewn perthynas â Gwasanaethau Sgrinio Retinopatheg Diabetig i Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

·                £(0.015) miliwni'r Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd mewn perthynas â chyllid ar gyfer Ymgynghorwyr Deintyddol i mewn i Ddyraniad y Contract Deintyddol.

 

 

8. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Defnyddir y cyllid hwn i gyllido Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, un o adrannau annibynnol y Llywodraeth a sefydlwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.  Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17.

 

9. Cyflawni Gweithgareddau Diogelu Iechyd ac Imiwneiddio Pwrpasol

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid ar gyfer brechlynnau i'r rhaglen clefydau ataliadwy.  Mae hefyd yn cyllido ystod o ymgyrchoedd gwybodaeth i'r cyhoedd, yn ogystal â mentrau i fynd i'r afael â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.   Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17.

 

10. Hybu Gwella Iechyd a Gweithio Iach

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn cefnogi mentrau a chamau gweithredu sy'n cael eu datblygu i ategu Ein Dyfodol Iach, gan gynnwys y strategaeth rheoli tybaco a'r camau i ddarparu nyrsys mewn ysgolion uwchradd.  Mae gostyngiad o £(0.450) miliwn i'r Cam Gweithredu hwn mewn perthynas â throsglwyddo Arolwg Iechyd Cymru i'r MEG Gwasanaethau Canolog ar ôl integreiddio sawl arolwg mawr, sefydledig i greu un arolwg.

 

11. Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd a Datblygu Gweithio mewn Partneriaeth

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn cefnogi'r Gronfa Anghydraddoldebau Iechyd a'r rhaglen Cychwyn Iach.  Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17.

 

12. Trefniadau Effeithiol ar gyfer Parodrwydd am Argyfyngau Iechyd

Caiff cyllid yn y Cam Gweithredu hwn ei gyfeirio at sefydlu a chynnal cyflenwadau strategol o frechlynnau cyn-bandemig, cyffuriau gwrthfeirysol, gwrthfiotigau, masgiau wyneb, anadlyddion a nwyddau traul.   Darperir cyllid hefyd i ddatblygu a chynnal cyflenwadau ar gyfer gwrthfesurau iechyd eraill er mwyn ymateb i ollyngiadau damweiniol neu fwriadol o sylweddau cemegol, radiolegol biolegol, niwclear a ffrwydrol.

 

Mae'r gyllideb hon hefyd yn cyllido'r Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus, sy'n galluogi'r gwasanaeth ambiwlans i ddarparu triniaethau mewn amgylcheddau halogedig neu leoliadau sy'n anodd eu cyrraedd.   Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17.

 

13. Datblygu a Gweithredu Ymchwil a Datblygu er budd Cleifion a'r Cyhoedd

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn cyllido gwaith y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, sy'n ceisio helpu i greu tystiolaeth o safon sy'n llywio polisi ac sy'n fuddiol i gleifion a'r cyhoedd. Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17.

 

14. Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn cyllido ystod o raglenni a datblygiadau polisi i helpu plant sy'n agored i niwed, a gwaith ar ddiogelu ac amddiffyn.  Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17.

 

15. Oedolion a Phobl Hŷn

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid i weithredu'r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn. Mae hefyd yn cyllido ymrwymiadau sy'n ymwneud â gweithredu strategaethau a pholisïau ym maes gofalwyr.  Ceir cynnydd o £0.170 miliwn i'r Cam Gweithredu hwn yn dilyn arbedion a ryddhawyd o Gyllideb y Comisiynydd Pobl Hŷn.  

 

16. Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r Cam Gweithredu hwn helpu i weithredu Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.  Bydd y cyllid hwn yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o ddatblygu modelau gofal newydd a helpu i drawsnewid gwasanaethau.  Mae'r Cam Gweithredu hwn yn cynnwys cyllid cynllun grant i awdurdodau lleol ar gyfer y rhaglen datblygu'r gweithlu sy'n berthnasol i'r sector cyfan a chymorth ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth.  Mae gostyngiad o £(0.075) miliwn i'r Cam Gweithredu hwn o ganlyniad i drosglwyddiad ariannol, i gyllideb graidd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, er mwyn parhau i gefnogi Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru.

 

17. Cyngor Gofal Cymru

Cyngor Gofal Cymru sy'n rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae'n gyfrifol am hyrwyddo a sicrhau safonau uchel ymhob rhan o'r gwasanaethau cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol.  Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn yn 2016-17.

 

18. Comisiynydd Pobl Hŷn

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu cyllid ar gyfer y Comisiynydd Pobl Hŷn.  Swydd annibynnol yw hon - y cyntaf o'i bath yn y byd - a sefydlwyd er mwyn sicrhau y caiff buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, sy'n 60 oed neu'n hŷn, eu diogelu a'u hyrwyddo.  Ceir gostyngiad o £(0.170) miliwn i'r Cam Gweithredu hwn, sy'n adlewyrchu disgwyliad cyson Llywodraeth Cymru y gellir sicrhau arbedion mewn perthynas â swyddi'r holl gomisiynwyr yn 2016-17.

 

 

19. Rhaglenni CAFCASS Cymru

Sefydliad gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar blant yw CAFCASS Cymru, ac mae'n darparu cyngor arbenigol o ran gwaith cymdeithasol i lysoedd achosion teuluol, y Llysoedd Sirol a'r Uchel Lys.  Mae'r cyllid ar gyfer y Cam Gweithredu hwn yn cefnogi dyletswyddau craidd y sefydliad, yn ogystal â'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006, gan gynnwys darparu canolfannau cyswllt a gweithgareddau cyswllt.  Nid oes unrhyw newid i'r Cam Gweithredu hwn.   

 

20. Cyfalaf

Mae Rhaglen Gyfalaf  y GIG yn helpu i gyflawni Gofal Iechyd ar gyfer yr 21ain Ganrif drwy wella canlyniadau iechyd drwy sicrhau bod ansawdd a diogelwch gwasanaethau yn gwella; gwella mynediad a phrofiadau cleifion; ac atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.  Mae'r enghreifftiau yn cynnwys cyllid ar gyfer cerbydau ambiwlans a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol, yn ogystal ag ysbytai cymunedol a chanolfannau lles newydd.  Ceir cynnydd o £33.5 miliwn mewn cyllid cyfalaf.